MeganJONES22 Medi, 2025.
Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o 4 Maes Cadnant, Caernarfon, yn 93 mlwydd oed.
Priod addfwyn y diweddar William Morgan Jones (Gwilym), mam dyner Dilys a Geraint; mam-yng-nghyfraith annwyl John a Lynne, nain falch Alun a'i wraig Eleri, Dylan a'i gymar Chloe, Lois a'i chymar Alex, a Mared a'i chymar Mike, a hen-nain gariadus Sara Elin a Noa Morgan. Hefyd cyfnither annwyl Eira a Deslyn, modryb hoff a chyfaill triw i lawer.
Angladd brynhawn Llun, 27 Hydref, 2025. Gwasanaeth preifat ar aelwyd Maes Cadnant, gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Llanbeblig, Caernarfon am 2.00 o'r gloch.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Megan tuag at Cymorth Canser Macmillan.
Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Bangor Street, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates